Ivor EifionJONESYn dawel dydd Mercher Rhagfyr 25ain 2019, bu farw Eifion, Cawdor Motors, Heol Myrddin, Ffairfach, Llandeilo. Priod hoff Helen, tad gofalus Chris a Ben, mab annwyl Gwenda a'r diweddar Ivor, a brawd ffyddlon Caroline. Cynhelir angladd gyhoeddus yn Amlosgfa Parcgwyn, Arberth dydd Mercher Ionawr 8fed, 2020 am 1.45 y prynhawn. Blodau'r teulu'n unig. Rhoddion os dymunir i 'Marie Curie' ac ymchwil i 'Tiwmor yr Ymenydd' drwy law'r trefnwr angladdau Tom Lewis, Aneddle, Pencader. SA39 9BX. 01559 384279.
Keep me informed of updates